Gorwel logo

0300 111 2121 | gorwel@gorwel.org

image
Toggle Menu

Croeso i Gorwel - cefnogaeth a mwy

Uned fusnes ydyn ni o fewn cymdeithas dai Grŵp Cynefin sy’n darparu gwasanaethau o safon i gefnogi pobl sy’n dioddef trais yn y cartref neu gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd. Rydyn ni’n gweithio gydag unigolion a theuluoedd, rhai ohonynt yn denantiaid Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych.

Gwneud Rhodd

I wneud rhodd:
Toggle Menu

Beth mae pobl yn ddweud amdanom?

"Mae’n braf cael rhywun yno, sydd wedi rhoi cymaint o gymorth a chefnogaeth i mi i reoli fy arian a’m cartref."
"Maent bob amser yn mynd y filltir ychwanegol. Mae’r staff cefnogi wedi bod yn ffantastig – y ffordd maen nhw’n siarad efo chi a byth yn edrych i lawr arnoch chi."
"Cefais gefnogaeth emosiynol a chefnogaeth gyda phroblemau cael mynediad at fy mhlentyn. Bues i drwy’r llys a chefais help efo’r materion cyfreithiol. Maen nhw wedi bod yn fendith."
"Dwi’n derbyn cefnogaeth dda iawn, maen nhw yn sortio fy mhroblemau tai, wedi fy helpu trwybrofedigaeth, ac wedi fy rhoi mewn cysylltiad â’r tîm iechyd meddwl."

Ar gyfartaledd rydym yn cefnogi hyd at 500 o bobl yr wythnos, ac mae gennym dros 60 o staff cyflogedig proffesiynol.

Rydyn ni’n gweithio gydag unigolion a theuluoedd o fewn pedair sir gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych.

Mae gennym staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio o swyddfeydd ym Mhenygroes, Llangefni, Pwllheli, Dinbych, Dolgellau a Blaenau Ffestiniog.

Ein gwasanaethau a’n prosiectau

- Lloches a chefnogaeth mewn argyfwng
- Cefnogi Plant a Phobl Ifanc
- Atal Digartrefedd – Ynys Môn, Gwynedd a Sir Ddinbych
Am bob £1 a fuddsoddir mewn Trais yn y Cartref gan Gorwel, daw gwerth cymdeithasol o £3.56 yn ôl i’r unigolyn a’r gymuned leol.
Am bob £1 a fuddsoddir mewn Atal Digartrefedd gan Gorwel, daw gwerth cymdeithasol o £9 yn ôl i’r unigolyn a’r gymuned leol.
Llywodraeth Cymru
Grwp Cynefin
Gorwel
OPCC
Cefnogi Pobl
Cyngor Gwynedd
Cyngor Ynys Mon
Cyngor Sir Ddinbych
Llywodraeth Cymru
Grwp Cynefin
Gorwel
OPCC
Cefnogi Pobl
Cyngor Gwynedd
Cyngor Ynys Mon
Cyngor Sir Ddinbych